Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

19 Chwefror 2024

SL(6)451 Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Symiau) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024

Gweithdrefn: Gwneud Negyddol

 

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau i ddarparu'r sail ar gyfer system y cymorth ariannol i fyfyrwyr sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru, a rhai myfyrwyr eraill sy'n astudio yng Nghymru, sy'n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig yn y DU.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r rheoliadau presennol ar gymorth i fyfyrwyr er mwyn addasu symiau'r cymorth i fyfyrwyr israddedig a doethurol ôl-raddedig, yn unol â'r polisi sefydledig. Mae cyfraddau cymorth myfyrwyr yn cael eu haddasu yn unol â'r gwerth a ragwelir ar gyfer y Cyflog Byw Cenedlaethol a'r gyfradd chwyddiant a ragwelir.

Rhiant-Ddeddf: Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998

Fe’u gwnaed ar: 24 Ionawr 2024

Fe’u gosodwyd ar: 26 Ionawr 2024

Yn dod i rym ar: 22 Chwefror 2024